Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Mehefin 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(273)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 2, 13 a 17 mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau a Rheolau Sefydlog 17 a 22 mewn perthynas ag Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (5 munud)

NDM5786 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13 a 17 mewn perthynas â Chofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau a Rheolau Sefydlog 17 a 22 mewn perthynas ag Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015; ac

 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:

 

a) adolygu Rheolau Sefydlog 17 a 22 fel y nodir yn Atodiad D i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar unwaith; ac i

 

b) adolygu Rheolau Sefydlog 2, 13 ac 17 fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 1 Medi 2015.

Supporting Document
Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI4>

<AI5>

5 Cynnig i gymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill a mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig (15 munud)

NDM5784 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu o dan Reolau Sefydlog 22.2(ii) a 22.2 (iii):

 

1. Yn cymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015;

 

2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015; ac

 

3. Yn cytuno y bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Medi 2015.

Dogfennau Ategol
Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill

Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

</AI5>

<AI6>

6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.

 

2. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.

</AI6>

<AI7>

7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5787 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol fel ffordd o gyflawni hyn yn mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynrychiolaeth a etholir yn ddemocrataidd ar fyrddau iechyd fel ffordd o gyflawni hyn.

 

Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

[Os cynigir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 2.

</AI7>

<AI8>

8 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5788 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn diwallu anghenion dinasyddion Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:

 

"ac yn credu y dylai hyn gynnwys cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol."

 

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hagenda i ddiwygio llywodraeth leol yn arwain at fwy o dryloywder ac atebolrwydd democrataidd o fewn llywodraeth leol.

</AI8>

<AI9>

9 Cyfnod pleidleisio 

</AI9>

<AI10>

10 Dadl Fer (30 munud)

NDM5783 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Clefydau'r croen: Blaenoriaethu anghenion pobl yng Nghymru sydd â chlefydau sy'n effeithio ar y croen

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>